Hysbysebu yn y Tincer

TELERAU HYSBYSEBU Cylchrediad 1,000
Tudalen lawn (35 x 22 cm)£70
Hanner tudalen£50
Chwarter tudalen£25
neu hysbyseb bach ca. 5 x 8 cm £6 y rhifyn - £30 y flwyddyn (10 rhifyn - misol o Fedi i Fehefin)

Dyddiad cau: y dydd Gwener trannoeth y dydd Iau cyntaf o'r mis

Y TINCER

Mae Trefeurig yn un o bum plwyf dalgylch papur bro y Tincer, a sefydlwyd ym 1977 ( cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym Medi 1977) ar gyfer plwyfi Genau'r-glyn, (Llandre, Dôl-y-bont); Trefeurig, (Penrhyn-coch, Pen-bont Rhydybeddau, Capel Madog, Capel Dewi); Tirymynach (Bow Street, Dolau, ) a'r Borth. Yn Ionawr 1982, yn dilyn cais i fod yn rhan o'r papur, ymunodd plwyf Melindwr (pentrefi Pen-llwyn/Capel Bangor, Goginan a Chwmrheidol/Aber-ffrwd). Ceir detholiad o straeon o'r Tincer a lluniau o'r ardal ar wefan y BBC Lleisiau lleol

YR ENW

Y Tincer
Dewiswyd yr enw gan mai dyma ardal y nofelydd Tom MacDonald (1900-1980). Fe'i ganwyd yn Llandre i rieni o dinceriaid Gwyddelig. Ar ôl bod ym Mhrifysgol Aberystwyth bu'n newyddiadurwr a golygydd papur newydd yn Lloegr, China, Awstralia ac am ddeng mlynedd ar hugain (30) yn Ne Affrica, nes iddo ddychwelyd i Gymru ym 1965.
Cyhoeddodd chwe nofel yn Saesneg - Gareth the ploughman (1939), (a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Nansi Griffiths fel Croesi'r bryniau (1981); The peak (1941), Gate of gold (1946), The black rabbit (1948), How soon hath time (1950), a The song of the valley (1951), pob un wedi ei lleoli yng Nghymru.


Ysgrifennodd hefyd ddwy nofel Gymraeg Y nos na fu (1974) a Gwanwyn serch (1982) a gyhoeddwyd ar ôl ei farw, a hefyd gyfrol o atgofion Y Tincer tlawd (1971) a gyfieithwyd yn The white lanes of summer (1975). Mae'r gyfrol o atgofion am ei blentyndod yng Ngorllewin Cymru yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-8). Mae'r enw yn awgrymu fod y Tincer yn casglu newyddion wrth fynd oddi amgylch yr ardal.

Cyhoeddir yn fisol o Fedi i Fehefin gan Bwyllor y Tincer; argreffir gan y Lolfa, Tal-y-bont. Cylchrediad: 1,044. Rhifyn Medi 2008 ymlaen mewn lliw llawn.

CYFEILLION Y TINCER 2008

SWYDDOGION


Golygydd:
Ceris Gruffudd
Rhos Helyg
23 Maesyrefail
Penrhyn-coch
ABERYSTWYTH
Ceredigion
SY23 3HE
(01970 828017)


Stori flaen:
Alun Jones Gwyddfor, Bow Street (01970 828 465)

Teipydd:
Iona Bailey

Cysodydd:
GraffEG (01970 832 980)

Cadeirydd:
Llinos Dafis, Cedrwydd, Llandre (01970 828262)

Is-gadeirydd:
Elin Hefin, Ynyswen, Stryd Fawr, Y Borth (01970 871 334)

Ysgrifennydd:
Anwen Pierce, 46 Bryncastell (01970 828 337)

Trysorydd:
Aled Griffiths, 18 Dôl Helyg, Penrhyn-coch (01970 828 176)griffiths95@gmail.com

Casglwr Hysbysebion:
Bryn Roberts, 4 Brynmeillion, Bow Street (01970 828 136)

Lluniau:
Peter Henley, Doleglur, Bow Street, (01970 828 173)

Tasg y Tincer:
Anwen Pierce

GOHEBYDDION LLEOL


Aber-ffrwd a Chwmrheidol
Mrs Beti Daniel, Glyn Rheidol (01970 880 691)
Y Borth

Bow Street
Mrs Siân Evans, 32 Maes Afallen (01970 828 133)
Mrs Mair Lewis, 40 Maes Ceiro, Bow Street (01970 828 102)
Anwen Pierce, 46 Bryncastell (01970 828 337)
Capel Bangor/Pen-llwyn
Mrs Aeronwy Lewis, Rheidol Banc, Blaengeuffordd (01970 880 645)
Capel Madog, Cefn-llwyd a Capel Dewi
Dai Evans, Fferm Fronfraith, Comins-coch (01970 623 660)
Alwen Griffiths, Lluest Fach, (01970 880 335)
Elwyna Davies, Tyncwm (01970 880 275)
Dôl-y-bont
Mrs Llinos Evans, Dôlwerdd (01970 871 615)
Dolau
Mrs Margaret Rees, Seintwar (01970 828 309)
Goginan
Mrs Bethan Bebb, Penpistyll, Cwmbrwyno (01970 880 228)
Llandre
Mrs Mair England, Pantyglyn (01970 828 693)
Llangorwen/ Clarach
Mrs Jane James, Gilwern (01970 820 695)
Penrhyn-coch
Mrs Mairwen Jones, 7 Tan-y-berth (01970 820 642)
Trefeurig
Mrs Edwina Davies, Darren Villa, Pen-bont Rhydybeddau (01970 828 926)

Y Tincer trwy'r post:
Pris 10 rhifyn - £10 (£20 i wlad y tu allan i Ewrop).Cysylltwch â: Haydn Foulkes, 7 Maesyrefail, Penrhyn-coch, Aberystwyth, Ceredigion. SY23 3HE (01970 828 889)

Y Tincer ar dâp:
Mae modd cael y Tincer ar gaset ar gyfer y rhai sydd â'r golwg yn pallu. Cysylltwch â: Mrs Vera Lloyd, 7 Maes Ceiro, Bow Street (01970 828555)

Camera'r Tincer:
Ar gael i unrhyw un yn yr ardal sydd am ei fenthyg i dynnu llun ar gyfer y papur. Cysylltwch â: Mrs Mair Lewis, 40 Maes Ceiro, Bow Street (01970 828102)