PLYGAIN PENRHYN-COCH 15 Rhagfyr 2011
Cynhaliwyd Plygain flynyddol Penrhyn-coch yn ôl yr arfer yn Eglwys Sant Ioan dan nawdd Cymdeithas y Penrhyn. Agorwyd y gwasanaeth gan y Parchg Ronald Williams. Darllenwyd y llith gyntaf gan y Parchg Judith Morris. Cafwyd cyfraniad arbennig gan gôr niferus plant Ysgol Penrhyn-coch dan arweiniad Gregory Vearey Roberts. Marianne Powell oedd wrth yr organ. Ar ddiwedd yr oedfa croesawyd pawb i swper yn Neuadd yr Eglwys. Diolch i bawb fu wrthi'n paratoi ar gyfer y noson. **Darlledir y Blygain fel rhan o Oedfa'r Bore ar Radio Cymru Ionawr 1af a'r 8fed**.
Daeth y canlynol ymlaen i ddathlu'r Blygain:






































