Newyddion lleol a digwyddiadau
Colli Swyddi (05-02-2010)
Mae hyd at 70 o swyddi llawn-amser yn cael eu colli yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.Cyhoeddodd cyfarwyddwr y sefydliad, Yr Athro Wayne Powell, hyn mewn cyfarfod ar gampws Llanbadarn ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener.
Dywedodd yr AC lleol, Elin Jones fod hon yn "ergyd fawr".
Mae deilydd portffolio economaidd Cyngor Ceredigion, Eurfyl Evans, wedi dweud bod y newyddion wedi ei "syfrdanu".
Ychwanegodd bod "hyn yn beth ofnadwy mewn ardal mor fach".
Yn ei ffurf bresennol mae disgwyl i'r sefydliad wynebu diffyg ariannol o bron £2.4m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2011-12.
Yr amcangyfri yw y bydd gostyngiad o 15% o leiaf mewn cyllid cyhoeddus dros gyfnod o dair blynedd.
Mae'r 70 o swyddi yn cynnwys staff technegol, cynorthwyol, dysgu ac ymchwil.
mwy
Cefnogaeth i Tirion (09-01-2010)
Dydd Calan: Gêm o hwyl rhwng tîm o ddynion dros 40 mewn sgidiau glaw v. tîm o fenywod. Codwyd dros £5,000 rhwng y gêm a'r ocsiwn. Eira cynnar 2009 (04-01-2010)
Yr eira wedi cyrraedd Penrhyn-coch a'r ardaloedd cyfagos ar 19 Rhagfyr 2009. Gwobr Pen blwydd y Frenhines i 'IBERS' (20-11-2009)
Dyfarnwyd Gwobr Addysg Uwch ac Addysg Bellach y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth. Cafodd y cyhoeddiad ei wneud Nos Fercher 18 Tachwedd mewn derbyniad arbennig ym Mhalas Sant James gan Sefydlydd a Chadeirydd yr Ymddiriedolaeth Pen-blwydd Coroni Brenhinol, Robin Gill CVO.Mae'r wobr yn cydnabod gwaith gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) sydd wedi cyfuno gwaith ymchwil hanfodol i eneteg planhigion gyda thechnegau bridio planhigion yn llwyddiannus er mwyn datblygu mathau o blanhigion sydd yn gwerthu yn dda ac sydd yn ymateb i'r heriau o sicrhau cyflenwadau o fwyd, dŵr ac ynni, a chynaliadwyedd amgylcheddol sydd yn wynebu cymunedau ar draws y byd.
mwy
Llwyddiant yn Steddfod y Bala 2009 (09-08-2009)
Llongyfarchiadau i Mared Emyr Pugh-Evans am ddod yn gyntaf yng Nghystadleuaeth yr Unawd Telyn dan 16 oed; ac i Lisa Healy am ddod yn ail yng Nghystadleuaeth Goffa Elfed Lewys.Cliciwch ar 'mwy' er mwyn gwrando ar berfformiad Lisa ar wefan y BBC.
mwy
Traffig ar stop (13-07-2009)
Bws yn ceisio troi i'r dde i gyfeiriad Bow Street ac yn methu - 5 o'r gloch Nos Fercher 5 Gorffennaf 2009.Cyngor Chwaraeon Ceredigion (2) (09-07-2009)
Enillodd Derfel Reynolds, Jonathan Evans a Debbie Jenkins wobrwyon mewn seremoni arbennig yn Aberteifi yn ddiweddar.Llongyfarchiadau i Derfel Reynolds am ennill gwobr am ei gyfraniad arbennig at Chwaraeon ar gyfer yr Anabl.
Cyngor Chwaraeon Ceredigion (1) (09-07-2009)
Enillodd Jonathan Evans wobr am ei gyfraniad i bêl-droed.Mae Debbie Jenkins yn helpu hyfforddi timoedd dan 14, merched dan 16 a thrydydd tîm Penrhyn-coch.
Llongyfarchiadau i Bawb!
Merched y Penrhyn yn ennill Ffeinal Canolbarth Cymru (16-04-2009)
Enillodd tîm Merched Penrhyn dan 14 oed yn erbyn Llanidloes ar gaeau Blaendolau yn ddiweddar. Sgoriodd 'Seren y Gêm' Amy Jenkins 4 gôl.Rhedeg yn Awstralia (24-02-2009)
Llongyfarchiadau i Elinor Thorogood o Benrhyn-coch a oedd yn aelod o dîm merched Prydain yng Ngŵyl Olympaidd yr Ifanc yn Sydney yn ddiweddar. Yn ystod yr un wythnos daeth yn ugeinfed yn y gystadleuaeth unigol i ferched.Esgob newydd Tyddewi - cysylltiad â Phenrhyn-coch. (02-09-2008)
Treuliodd y Tra Pharchedig Wyn Evans ei blentyndod ym Mhenrhyn-coch. Roedd ei dad y Parchg D. Eifion Evans, yn ficer Penrhyn-coch 1948–57.
Bydd esgobion etholedig Tyddewi a Bangor yn cael eu cysegru mewn gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Sadwrn 29 Tachwedd 2008.
Cafodd Y Tra Pharchedig Wyn Evans ei ethol yn 128fed Esgob Tyddewi a'r Hybarch Andrew John yn 81fed Esgob Bangor.
Roedd Mr Evans yn Ddeon Tyddewi, esgobaeth sy'n cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
mwy
Dyfeisydd o Aberystwyth yn ennill Cystadleuaeth Genedlaethol (05-07-2008)
Arddangoswyd dyfais o waith Dr Huw Thomas o Benrhyn-coch yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn ystod mis Mai wedi iddo ennill cystadleuaeth i ganfod dyfeiswyr newydd o Gymru. Fe'i canmolwyd am botensial masnachol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol ei ddyfais, y Promove Sling. Yn wyddonydd wedi ymddeol, cafodd Huw, sy'n defnyddio cadair olwyn, ei ysbrydoli i ddylunio'r sling ar ôl i ddynion tân orfod ei godi o lawr cyntaf adeilad wedi i'r lifft dorri. Gall ei ddyfais fod o gymorth i bobl anabl neu analluog, yn ogystal ag i'r nifer cynyddol o bobl ordew yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.Roedd y gystadleuaeth 'Ffau Dyfeiswyr' yn rhan o Fis Amgueddfeydd ac Orielau 2008 a gynhaliwyd rhwng 1–31 Mai. Y thema ar gyfer y mis oedd syniadau ac arloesedd, a gofynnwyd i'r rhai a gymerodd ran yn y gystadleuaeth gyflwyno eu syniadau ar gyfer dyfeisiadau o Gymru a fedrai newid bywyd pobl er gwell. Beirniadwyd y gystadleuaeth gan gynrychiolwyr o ysgol dylunio cynnyrch Prifysgol Morgannwg, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe a Swyddfa Eiddo Deallusol y Deyrnas Unedig yng Nghasnewydd.
Dywedodd Huw, sy'n dioddef o ddystroffi'r cyhyrau: 'Roeddwn wrth fy modd yn ennill y gystadleuaeth ac yn hynod falch fod y sling wedi cael ei arddangos yn Amgueddfa'r Glannau. Mae llawer o bobl wedi canmol ymarferoldeb y sling, ond mae'n wych derbyn cydnabyddiaeth.'
Mae'r Promove yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i symud unigolion mewn sefyllfaoedd anodd. Medrir ei ddefnyddio i symud a thrin pobl analluog neu anabl, yn cynnwys unigolion trwm hyd at 45 stôn, mewn gofod cyfyng neu yn yr awyr agored lle na fedrir defnyddio hoist. Mae'n addas ar gyfer gwasanaethau argyfwng, darparwyr gwasanaeth meysydd awyr, rheolwyr cyfleusterau cyhoeddus a'r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r Promove yn cael ei dreialu ar hyn o bryd gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal â chan frigadau eraill yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Medrir dodi Promove yn rhwydd o dan berson analluog sydd ar y ddaear, yn eistedd mewn cadair neu wedi'i gyfyngu mewn cornel dynn. Mae'r sling yn rhoi cefnogaeth dda, gan ffurfio sedd gadarn siâp bwced o dan yr unigolyn. Mae handlenni mewn lleoliad strategol ar y ddyfais yn ei gwneud yn bosibl i'w defnyddio gan ddau neu bedwar o bobl (neu hyd at wyth ar gyfer unigolion trwm iawn).
Ym mis Ebrill aeth Dana Thomas, partner busnes Dr Huw Thomas, hithau hefyd yn dod o Benrhyn-coch, i Genefa ar gyfer Arddangosfa Ryngwladol Dyfeisiadau 2008, lle'r enillodd y ddyfais fedal efydd.
Am ragor o wybodaeth cysyllter â Dr Huw Thomas neu Dana Thomas ar 01970 820 893
Etholiad Cyngor Sir (1 Mai 2008) (03-05-2008)
Dai Suter (Plaid Cymru / The Party of Wales) 461Martin J Squires (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru / Welsh Liberal Democrats) 108
Kari Walker 99
Eisteddfod Penrhyn-coch 18 a 19 Ebrill 2008 (22-03-2008)
Lluniau i'w gweld ar dudalen yr Eisteddfod. mwy
Lluniau wedi cyrraedd!