NEUADD Y PENRHYN

Cliciwch isod er mwyn printio'r Holiadur. Dychwelwch i'r blychau ar gael: yn Swyddfa'r Post, Garej Tymawr neu Neuadd y Penrhyn erbyn 28 Chwefror 2009:
HOLIADUR

Agorwyd Neuadd y Penrhyn yn swyddogol ym 1960, ac fe'i hadeiladwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn sgil ymdrech ar y cyd gan y gymuned. Ar hyd y blynyddoedd, mae'r Neuadd wedi gwasanaethu'r gymuned yn dda, ond bellach mae angen ei hadnewyddu ar frys. Gwnaed cais aflwyddiannus i'r Loteri am £300 mil i adnewyddu'r Neuadd yn 2001, a bellach mae dau ddewis ar gael i'r Neuadd:-
1. Adnewyddu'r hen Neuadd neu
2. ei disodli gydag adeilad newydd pwrpasol.
Bydd angen codi arian ar gyfer y ddau ddewis a chan hynny cynigir paratoi cais grant newydd er mwyn symud ymlaen. Yn anffodus, yn sgil Gemau Olympaidd Llundain 2012, mae arian y Loteri sydd ar gael wedi'i gwtogi'n ddramatig a byddai'n rhaid i unrhyw geisiadau arfaethedig am grant yn y dyfodol fodloni amodau llym.

Rhaid ymchwilio'n llawn i'r angen am Neuadd newydd a rhaid ei gyfiawnhau er mwyn caniatáu cymorth ariannu. Rhaid felly ystyried mannau cyhoeddus eraill sydd ar gael yn y pentref (gweler y ddalen arall) a'r ffaith nad ydynt yn bodloni anghenion y gymuned. Rhaid i ni sefydlu pa fathau o weithgareddau na ellir eu cynnal yn y lleoliadau hyn, a datblygu achos dros naill ai Neuadd newydd neu Neuadd wedi'i hadnewyddu a allai fodloni'r anghenion hyn. Er mwyn cyfiawnhau buddsoddiad cyfan, mae angen rhaglen lawn o weithgareddau yn ystod y dydd, gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Rhaid i ni hefyd brofi ymrwymiad y gymuned i'r datblygiad hwn yn y dyfodol a gofyn am gefnogaeth preswylwyr i fynychu, gwirfoddoli, trefnu a chefnogi digwyddiadau a gweithgareddau yn y Neuadd newydd neu Neuadd wedi'i hadnewyddu. Er mwyn cefnogi'r cais/ceisiadau grant, rhaid i ni lunio achos dros gyfuno arian grant gyda chodi arian a rhoddion i godi'r neuadd. Hefyd byddwn angen model busnes hunangynhaliol i dalu am gostau rhedeg parhaus. Er mwyn i hyn weithio a bod yn llwyddiannus, rydym angen eich cefnogaeth lawn wrth sicrhau'r wybodaeth angenrheidiol ar yr holiadur hwn.

Medrwch adeal holiaduron sydd wedi eu cwblhau yn Swyddfa Post Penrhyncoch, Garej Tymawr neu Blwch Post y Neuadd erbyn 28 Chwefror 2009. Medrwch hefyd cael copïau ychwanegol o'r mannau hyn neu medrwch gwblhau copi ar lein ar www.trefeurig.org/neuaddholiadur.php.

Am gymorth, fwy o wybodaeth, sylwadau neu gwestiynau yn ymwneud â'r holiadur hwn anfonwch e-bost at neuaddypenrhyn@googlemail.com neu ffoniwch 01970 828334, neu ewch i www.trefeurig.org/neuaddholiadur.php

Yn gywir Kari Walker, Cadeirydd, Pwyllgor Adfywio Neuadd y Penrhyn

GWEITHGAREDDAU CYFREDOL YM MHENRHYN-COCH :
Neuadd y Penrhyn
Ysgol Feithrin (Llun-Gwener, 9am-12pm)
Cylch Ti a Fi (dydd Gwener pm)
Merched y Wawr (misol)
Pwythau Penrhyn (bob pythefnos)
Pwyllgor Neuadd y Penrhyn (misol)
Cyngor Cymuned Trefeurig (bob yn ail fis)
Ymarfer Band, Grwpiau Dawns (achlysurol)
Ymarfer Côr Penrhyn-coch (Chwefror-Ebrill)
Partïon Plant ac Oedolion (poblogaidd ar benwythnosau)
Clwb Camera (wythnosol
Patrasa (bob yn ail fis)
Plaid Cymru (achlysurol)
Pwyllgor Eisteddfod Penrhyn-coch (chwe mis o flaen llaw)
Eisteddfod Penrhyn-coch (blynyddol)
Sioe Penrhyn-coch (blynyddol)
Ffair Nadolig (blynyddol)
Chwist (blynyddol)
Te ar ôl Angladdau (yn ôl y gofyn)
Gorsaf Bleidleisio (yn ôl y gofyn)
Sefydliad y Merched (bob pythefnos)
Neuadd yr Eglwys
Ladies Guild (misol)
Grwp Ymddeol (bob pythefnos)
Ysgol Sul (wythnosol yn ystod y tymor)
Digwyddiadau Codi Arian (e.e. Te Mefus)
Gardd Gymunedol (Mawrth a Sadwrn)
Brownies (wythnosol)
Pwyllgor yr Eglwys (misol)
Gweithdy Plant (Sul y Pasg)
Te ar ôl Angladdau (yn ôl y gofyn)
Festri Horeb
Cymdeithas y Penrhyn (misol)
Clwb Sul (Ysgol Sul)
Te ar ôl Angladdau (yn ôl y gofyn)
Clwb Pêl-droed
R. A. O. B. (Nos Fercher)
Pwyllgor y Clwb Pêl-droed (misol)
Clwb Helwyr (misol)
Digwyddiadau Codi Arian (achlysurol)
Parti Nadolig Plant
Tîm Cwis, Timau Dartiau, Tîm Pwl
Te ar ôl Angladdau (yn ôl y gofyn)
Neuadd Ysgol Penrhyncoch
Cyngerdd Nadolig
Ysgol Trefeurig
Yn dilyn cau'r ysgol yn ddiweddar, mae'r gymuned leol ynymdrechu i sicrhau ei bod yn parhau yn adeilad i'r gymuned ei defnyddio.
Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol. Os ydych yn dymuno ychwanegu mwy o weithgareddau a digwyddiadau yn y gwahanol leoliadau ym Mhenrhyn-coch, cysylltwch â Kari Walker,Cadeirydd y Pwyllgor ar y manylion cyswllt uchod.

Help / Cymorth