Cyfarfod Ionawr 2009
Cafwyd noson fendigedig yn ein Cinio ar ôl y Nadolig. Aethpwyd i gaffi Boulders (uwchben Siop Nisa), Borth lle cafwyd croeso arbennig gan Derek a Gwenda gyda'r bwyd wedi cael ei goginio gan Jo a'i weini gan Tom (un o gyn ddisgyblion Ceri yn y Borth). Diolch yn fawr iawn iddynt am fwyd blasus tu hwnt a digon ohono.
Cafwyd adloniant i ddilyn gan Linda Griffiths a chafwyd gwledd wrth iddi ddweud straeon am ei hardal a'i thafodiaith a chanu ambell i gân.
Diolch Linda am noson gartrefol iawn.
|
|
| ||||||
|
|
| ||||||
|
|
| ||||||
|









