Ymweliad Horeb â Salem, 5 Gorffennaf 2009
Teithiodd 35 o aelodau Horeb, Bethel a ffrindiau i Salem, Cwm Nantcol ddydd Sul 5 Gorffennaf 2009.
Cafwyd oedfa fendithiol dan arweiniad y Parchg Judith Morris, a bregethodd ar y testun: 'Tyrd i weld' Ioan 1:46. Darllenwyd o'r Ysgrythur gan Isaias Grandis, o Drefelin yn y Wladfa, a chanwyd yr emyn 'Wel dyma hyfryd fan' gan Bryn Roberts. Cyflwynwyd yr emynau gan aelodau o Fethel a Horeb. Yr organydd oedd Ceris Gruffudd.
Yn dilyn yr oedfa, difyr oedd gwrando ar ysgrifennydd Salem yn dweud hanes y capel a stori'r llun enwog 'Salem' o waith Curnow Vosper.
Mwynhawyd te blasus yn Yr Hen Feudy, Llanbedr, cyn cychwyn adref.
Rhagor o hanes Salem











