OEDFA ARBENNIG 24 Gorffennaf 2011
Ddydd Sul 24 Gorffennaf 2011 cafwyd oedfa arbennig yn Horeb yng nghwmni Rhiannon Williams a'i gŵr Huw, a oedd yn cyfeilio iddi.Mae Rhiannon yn paratoi traethawd doethuriaeth ym Mhrifysgol Morgannwg ar y Capel, y Gymuned a Pherfformiad.Cafwyd perfformiad yn seiliedig ar ei phrofiadau yn ei chapel ym Mhontiets gan ddwyn atgofion i bawb o brofiadau cyffelyb. Diolchwyd yn gynnes iddi gan y Parchgn Judith Morris a Peter Thomas. Edrychwn ymlaen at gydweithio â hi yn yr hydref.
|
|
|

Huw, Rhiannon a Judith


