OEDFA HEL ATGOFION yn HOREB 15.1.2012
Yn ystod yr wythnos 9-13 Ionawr, fel rhan o ddathliadau pen blwydd Festri Horeb yn 80 oed a chyfle i ymuno mewn prosiect arbennig gan Rhiannon Williams, trefnwyd arddangosfa o hen luniau a chreiriau yn ymwneud â hanes y capel. Galwodd nifer o'r aelodau a chyfeillion o bell ac agos i mewn i fwynhau paned o de a chyfle i hel atgofion. Bydd cyfle i weld detholiad o'r eitemau ar y wefan cyn bo hir.
Dydd Sul 15 Ionawr cynhaliwyd oedfa arbennig i ddathlu'r achlysur ymhellach. Bu nifer o'r aelodau yn sôn am eu plentyndod mewn amryw o gapeli ar draws Cymru. Cafwyd atgofion yn ymwneud â thraddodiad yr Undodwyr, y Methodistiaid - Calfinaidd a Wesleaidd, Yr Eglwys yng Nghymru a'r Bedyddwyr. Erbyn hyn mae'n braf ein bod yn cydaddoli o dan yr un to.

















