• Hen Gymeriadau Trefeurig, J. P. Evans, Y Siop, Bont-goch
Ymddeoliad Annie Post c. 1956.
Atgofion am yr oes o'r blaen:• Cofiai'r llythyron yn cael eu dosbarthu gan ei hwncwl ar gefn ceffyl am 10 swllt yr wythnos.• Bu'n organydd yn Horeb am 60 mlynedd ac yn ystod ailwampio'r Capel cynhaliwyd y gwasanaethau yn stafell y Clwb uwchben y Post. • Pan oedd unig ffôn y pentref yn y Post, cymerai negeseuon ar ran pawb yn y pentref.
JOHN JAMES, dyn prysur - clerc Cyngor Trefeurig am 56 mlynedd, ysgrifennydd Siloam, Cwmerfyn am 65 mlynedd, casglwr trethi plwyf Trefeurig am 56 mlynedd, ysgrifennydd Côr y Bryniau, ysgrifennydd Cymdeithas Ceffylau Gogledd sir Aberteifi, ysgrifennydd Cymanfa Ganu Annibynwyr Gogledd sir Aberteifi, ysgrifennydd ardal NFU ers 25 mlynedd. Bu'n ffermio Maes Meurig am 25 mlynedd.
MORGAN JONES 5/10/1862-4/2/1930. Un o hen fwynwyr Goginan.
Ymunodd â'r fyddin ac wedyn daeth yn blismon militaraidd.
Ymddeolodd WILLIAM H BINKS, Brook Villa ym 1956 ar ôl 38 mlynedd o wasanaeth. Brodor o Southend-on Sea a ddaeth i Gymru i weithio ar y ffermydd. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf penodwyd fel postman yn ardal Penrhyn-coch a Banc-y-Darren, ac wedyn ardaloedd Penrhyn-coch a Bryngolau. Roedd yn aelod a diacon yn Horeb, ble ofalodd am y fynwent am flynyddoedd. Yn ystod yr Ail Ryfel bu'n aelod o'r Home Guard. Ymhlith ei hobiau oedd pêl-droed ac anaml y collai gêm yn Aberystwyth.
Lizzie Evans, ('LE') Llythyrdy, Cwmsymlog, 1923 + . Eisteddfodwraig a chantores.
Cymeriadau'r Gorffennol
![]() |
| Annie Post, Penrhyn-coch |
Atgofion am yr oes o'r blaen:• Cofiai'r llythyron yn cael eu dosbarthu gan ei hwncwl ar gefn ceffyl am 10 swllt yr wythnos.• Bu'n organydd yn Horeb am 60 mlynedd ac yn ystod ailwampio'r Capel cynhaliwyd y gwasanaethau yn stafell y Clwb uwchben y Post. • Pan oedd unig ffôn y pentref yn y Post, cymerai negeseuon ar ran pawb yn y pentref.
![]() |
| John James |
JOHN JAMES, dyn prysur - clerc Cyngor Trefeurig am 56 mlynedd, ysgrifennydd Siloam, Cwmerfyn am 65 mlynedd, casglwr trethi plwyf Trefeurig am 56 mlynedd, ysgrifennydd Côr y Bryniau, ysgrifennydd Cymdeithas Ceffylau Gogledd sir Aberteifi, ysgrifennydd Cymanfa Ganu Annibynwyr Gogledd sir Aberteifi, ysgrifennydd ardal NFU ers 25 mlynedd. Bu'n ffermio Maes Meurig am 25 mlynedd.
![]() |
| Morgan Jones |
MORGAN JONES 5/10/1862-4/2/1930. Un o hen fwynwyr Goginan.
Ymunodd â'r fyddin ac wedyn daeth yn blismon militaraidd.
![]() |
| W H Binks y postmon |
Ymddeolodd WILLIAM H BINKS, Brook Villa ym 1956 ar ôl 38 mlynedd o wasanaeth. Brodor o Southend-on Sea a ddaeth i Gymru i weithio ar y ffermydd. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf penodwyd fel postman yn ardal Penrhyn-coch a Banc-y-Darren, ac wedyn ardaloedd Penrhyn-coch a Bryngolau. Roedd yn aelod a diacon yn Horeb, ble ofalodd am y fynwent am flynyddoedd. Yn ystod yr Ail Ryfel bu'n aelod o'r Home Guard. Ymhlith ei hobiau oedd pêl-droed ac anaml y collai gêm yn Aberystwyth.
![]() |
| Lizzie Evans |