Hanes Trefeurig


Hyd 1894 yr oedd Trefeurig yn barsel, neu dref ddegwm, yn un o lawer, ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, y plwyf mwyaf yng Nghymru. Yn 1894 trwy ddeddf llywodraeth leol fe grewyd plwyf sifil Trefeurig, a'i gyngor etholedig. Yr oedd plwyf Trefeurig yn un hirgul, yn ymestyn o Gogerddan hyd at Bumlumon. Hanerwyd ei hyd dan ad-drefniant llywodraeth leol yn 1987 a chreu uned fwy cryno, "Cymuned Trefeurig" bellach yn hytrach na "Plwyf Trefeurig", yn ymestyn o Gogerddan hyd at y Fuwch a'r Llo ar yr heol fynydd i Bonterwyd. Yn 1987 ychwanegwyd at Gymuned Trefeurig y rhan fwyaf o hen blwyf sifil Parsel Canol a darn o Dir-y-mynach. Mae Trefeurig yn cynnwys holl bentref Penrhyn-coch a'r pentrefi bychain Pen-bont Rhydybeddau, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Salem, Llwyn-prysg, Cefn-llwyd, Bancydarren ac ychydig o Gapel Dewi.

<a href='dafyddapgwilym.php'>Dafydd ap Gwilym</a>
Dafydd ap Gwilym

<a href='hanestrefeurig1a.php'>Y Rhyfel Gyntaf</a><span style='padding-left:4em;'></span>         <a href='hanestrefeurig1.php'>Yr Ail Ryfel Byd</a>
Y Rhyfel Gyntaf Yr Ail Ryfel Byd


Crefydd ac Addysg
Diwydiant
Cysylltiad Brenhinol
Cymeriadau'r Gorffennol
Atgofion W Elfed Davies, Salem (1919-2002)