Hanes Trefeurig
Hyd 1894 yr oedd Trefeurig yn barsel, neu dref ddegwm, yn un o lawer, ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, y plwyf mwyaf yng Nghymru. Yn 1894 trwy ddeddf llywodraeth leol fe grewyd plwyf sifil Trefeurig, a'i gyngor etholedig. Yr oedd plwyf Trefeurig yn un hirgul, yn ymestyn o Gogerddan hyd at Bumlumon. Hanerwyd ei hyd dan ad-drefniant llywodraeth leol yn 1987 a chreu uned fwy cryno, "Cymuned Trefeurig" bellach yn hytrach na "Plwyf Trefeurig", yn ymestyn o Gogerddan hyd at y Fuwch a'r Llo ar yr heol fynydd i Bonterwyd. Yn 1987 ychwanegwyd at Gymuned Trefeurig y rhan fwyaf o hen blwyf sifil Parsel Canol a darn o Dir-y-mynach. Mae Trefeurig yn cynnwys holl bentref Penrhyn-coch a'r pentrefi bychain Pen-bont Rhydybeddau, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Salem, Llwyn-prysg, Cefn-llwyd, Bancydarren ac ychydig o Gapel Dewi.
Hen hanes

Ceir yn ardal Trefeurig amryw o olion cynhanesyddol gan gynnwys tair hen gaer (heb gael eu cloddio erioed), sef Caer Castellan, Pen-Gaer a Chaer y Darren. Mae cofnod am lawer o hen feddau yn y fro a gafodd eu cloddio gynt. Tybir i'r hen ffordd Rufeinig redeg heibio i Felin Hen, sgwâr y Penrhyn a Phen-y-cwm. Dau beth sy'n rhoi enw i'r fro yn yr Oesoedd Canol yw geni Dafydd ap Gwilym ym Mrogynin a datblygiad Gogerddan yn gartref i un o deuluoedd mawr Ceredigion.
Hanes Diwydiannol

Daeth y fro yn ardal ddiwydiannol yn yr 16eg ganrif trwy waith arian a phlwm Cwmsymlog, y mwyaf cynhyrchiol ym Mhrydain ar un adeg. Gwelir olion hen weithfeydd plwm o hyd yng Nghwmsymlog, Cwmerfyn, Bancydarren, Bryn-llwyd (Llechwedd-hen), Pen-y-cefn a mannau eraill. Ar i lawr oedd y diwydiant o tua 1880 a daeth i ben ddechrau'r 20fed ganrif. Ar gyfer pŵer i'r gweithiau plwm y crewyd llynnoedd Pen-dam, Melindwr, Syfydrin ac eraill.
Hanes Diweddar
Yr oedd poblogaeth Trefeurig yn 1871 yn 1,273, a thros bump o bobl ar gyfartaledd i bob tŷ. Erbyn 1961 yr oedd mor isel â 454. Bellach y mae dros 1,500, a phrin dau berson i bob tŷ. Daeth y prifiant hwn â newid cymdeithasol ac ieithyddol i ardal a oedd wedi bod yn dra digyfnewid. Yng Ngogerddan y mae'r unig gyflogwyr sylweddol yn y gymuned: IBERS (olynydd canolfan ymchwil byd-enwog a sefydlwyd yn y 1920au), Comisiwn Cefn Gwlad, Undeb Amaethwyr Cymru, a'r Comisiwn Coedwigaeth.
Crefydd ac AddysgLlanbadarn oedd yr eglwys blwyfol hyd 1881 pan godwyd eglwys Sant Ioan, Penrhyn-coch. Codwyd Capel Horeb gan y Bedyddwyr yn 1788 a chapeli gan enwadau eraill yn Salem, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Pen-bont Rhydybeddau a Chapel Madog ym mlynyddoedd canol y 19eg ganrif. Sefydlwyd ysgol Penrhyn-coch, yn Ysgol Eglwys, yn 1865. Adeiladwyd ysgol Trefeurig, yn Ysgol Fwrdd, yn 1873; bu iddi gau yn 2006.
Adloniant
Mae ym Mhenrhyn-coch gae chwarae i blant, a chae pêl-droed (dan reolaeth Clwb Pêl-droed Penrhyn-coch), er diwedd y 1970au. Defnyddir hen Ysgol yr Eglwys at bwrpasau adloniant. Codwyd Neuadd y Penrhyn wedi'r Ail Ryfel Byd.
|
|

