DAFYDD AP GWILYM c.1315/20?1350



Dafydd ap Gwilym



O holl lenorion y fro hon, Dafydd ap Gwilym yw'r enwocaf o ddigon a'r disgleiriaf, un a gydnabyddir drwy'r byd fel un o feirdd canoloesol mwyaf Ewrop. Er i Ddafydd Llwyd fab Gwilym Gam gael ei eni ym Mrogynin ger Penrhyn-coch, yr oedd gwreiddiau'r teulu yng nghantref Cemais yng ngogledd Penfro. Efallai iddo etifeddu peth o ddawn ei hynafiaid Gwynfardd Dyfed a Chuhelyn Fardd yn yr 11/12 ganrif, dawn a feithrinwyd gan ei ewythr diwylliedig Llywelyn ap Gwilym, Cwnstabl Castell-newydd Emlyn, a fu â rhan ym magwraeth ac yn addysg Dafydd. Mae'n bosibl fod Dafydd, fel aelod o'r dosbarth uchelwrol, wedi derbyn hyfforddiant ar gyfer un o fân urddau'r eglwys, ond prin yw'r dystiolaeth ddogfennol am ei yrfa a'i gynhaliaeth. Mae ansicrwydd hefyd am fan ei gladdu, naill ai yn Ystrad-fflur neu yn Nhalyllychau. Awgryma ei gerddi ei fod yn derbyn nawdd am ganu mawl i uchelwyr â Ifor Hael o Fasaleg yn Ngwent, yn enwedig, a ddarlunnir fel cyfaill annwyl. Cyfarchodd yr eglwyswr llengar Hywel ap Goronwy, Deon Bangor, a chanu marwnadau i Ieuan Llwyd ab Ieuan Fwyaf o Enau'r Glyn, ac i aelodau teulu Ieuan Llwyd o Lyn Aeron. Yng nghartref Ieuan cedwid y flodeugerdd enwog Llawysgrif Hendregadredd, ac fe awgrymodd Daniel Huws fod ysgrifen Dafydd i?w gweld ynddi.

Mae'n amlwg fod Dafydd yn gyfarwydd â theithio ledled Cymru a'i fod mewn cysylltiad â rhai o'i gyfoeswyr barddol: er enghraifft, bu Gruffudd Gryg ac yntau'n cyfnewid cywyddau ymryson deifiol. Yn ei gerddi serch y deuwn orau i adnabod y bardd, drwy rannu ei orfoledd yn ogystal â'i siom yn ystod ei berthynas hir â Morfudd, y ferch nwydus a ddaeth yn wraig i Cynfrig Cynin (neu'r Bwa Bach, fel y'i gelwid). Clywn hefyd am Dyddgu ucheldras o blas Tywyn ger Aberteifi, ac am ferched eraill dienw a phleserau'r llwyn a'r deildy. Gwneud hwyl am ei ben ei hun a wna'n aml wrth iddo gael ei rwystro ar ei anturiaethau serch ? 'Trafferth mewn Tafarn' yw'r enghraifft enwocaf ? ond trewir nodyn dwysach gan nifer o'i gywyddau wrth iddo fyfyrio ar henaint a byrhoedledd oes dyn. Ni wyddys a fu Dafydd farw o'r Pla Du, a ymosodd gyntaf ar Geredigion yn 1349.

Nodweddir gwaith Dafydd ap Gwilym gan gyfoeth geirfaol eithriadol: at y gwaddol o eiriau a etifeddodd gan ei ragflaenwyr barddol ychwanegodd lu o eiriau cyfoes a thechnegol o bob math, llawer ohonynt yn eiriau benthyg o Ffrangeg a Saesneg. Defnyddiwyd y geiriau newydd hyn â sbin a'u troi'n drosiadau llachar, yn enwedig mewn disgrifiadau o fyd natur. Ef hefyd a ddatblygodd ffurf y cywydd â chynghanedd a'i ystwytho â sangiadau.Tynnai ar rai o ddulliau'r traddodiad poblogaidd brodorol ac ar genres estron fel y pastourelle a'r serenade. Mae'n amlwg fod ei farddoniaeth ffres a soffistigedig at ddant uchelwyr diwylliedig ac amlieithog yr oes; mae'n amlwg hefyd fod beirdd eraill ei gyfnod, a beirdd diweddarach hefyd yn cydnabod ei ragoriaeth.

Mae ei holl gerddi (tua 167 ohonynt), ynghyd â throsiadau i Gymraeg Modern a llawer iawn o ddeunydd cefndirol, i?w gweld ar: Wefan Dafydd ap Gwilym

O ddiddordeb arbennig i ddarllenwyr yr ardal hon y mae rhifau 7 (Marwnad Ieuan Llwyd ab Ieuan Fwyaf o Enau'r Glyn), 51 ('Y Don ar Afon Dyfi'), 92 ('Morfudd a Dyddgu'), 96 ('Taith i Garu', cywydd sy'n cynnwys llawer o enwau'r fro), 115 ('Llychwino Pryd y Ferch'), 116 ('I Ddymuno Lladd y Gŵr Eiddig'), 120 ('Dewis Un o Bedair' sy'n disgrifio Morfudd 'seren cylch Nantyseri', Dyddgu, Elen gwraig Robin Nordd o dref Aberystwyth, a merch ddienw), 137 ('Merched Llanbadarn'), a 143 ('Merch Gyndyn').