Cymuned Trefeurig


Map o Gymru sy'n dangos lleoliad Trefeurig

Fforiwch yr ardal ar Google Maps

Mae Cymuned Trefeurig tua phedair milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth, ac yn cynnwys Penrhyn-coch, Salem, Pen-bont Rhydybeddau, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Banc-y-darren, Cefn-llwyd, a Chapel Madog.

Am ganrifoedd roedd yr ardal yn rhan o blwyf mawr Llanbadarn, ond yn 1894 sefydlwyd Plwyf Sifil Trefeurig. Roedd hwnnw?n blwyf main a hir, yn ymestyn o Gogerddan hyd at Bumlumon ei hun, ond yn 1987 newidiwyd y ffiniau fel nad yw'r plwyf, neu yn hytrach y gymuned, bellach ond yn ymestyn hyd at Y Fuwch a'r Llo, sydd ar y ffordd fynydd o Benrhyn-coch i Bonterwyd.

Dyma ardal Dafydd ap Gwilym, un o feirdd mawr Ewrop yn yr Oesoedd Canol, a bu Lewis Morris amryddawn ac athrylithgar, ysgolhaig a bardd ymysg pethau eraill, yn byw yma yn y ddeunawfed ganrif. Un o'i swyddi ef oedd edrych ar ôl buddiannau'r Goron yn yr ardal, gwaith trafferthus iawn gan fod y tirfeddianwyr lleol mor awyddus i fanteisio ar gyfoeth rhyfeddol yr ardal mewn mwynau fel plwm ac arian. Bu datblygu mawr yn y diwydiant mwyngloddio yn y ddeunawfed ganrif a'r ganrif ddilynol, yn gymaint felly fel bod poblogaeth Trefeurig yn 1,273 erbyn 1871. Wedi hynny dirywio fu hanes y gweithiau, ac erbyn 1961 roedd y boblogaeth wedi cwympo i 454.

Mae'r deugain mlynedd diwethaf wedi gweld newid mawr iawn yn yr ardal. Mae Penrhyn-coch o fewn cyrraedd hwylus i Aberystwyth, a chyda'r datblygiad yn IBERS (IGER neu'r Fridfa Blanhigion gynt, a sefydlwyd yn y 1920au) ar hen safle Plas Gogerddan, a?r ehangu mawr mewn swyddi yn Aberystwyth, yn enwedig swyddi cyhoeddus, fe dyfodd y pentref yn sylweddol iawn. Yn 1950 nid oedd ond rhyw 150 o aelwydydd yn y plwyf yn gyfan; erbyn hyn mae tua 700, gyda dros 450 ym Mhenrhyn-coch ei hun, ac mae poblogaeth y gymuned tua 1,500.

Mae hyn wedi golygu newid mawr o ran cymdeithas, iaith a diwylliant. Mae'r rhan fwyaf ohonom, drigolion yr ardal, bellach yn 'bobl ddŵad', o ardaloedd cyfagos, neu o rannau eraill o Gymru neu o'r tu draw i'r ffin.

Gobeithio y bydd y wefan yn fodd i drigolion yr ardal heddiw ddod i wybod mwy am ei gilydd a'r ardal y maent yn byw ynddi, ac y bydd hefyd o ddiddordeb i eraill yn enwedig rhai sydd â chysylltiadau â'r ardaloedd hyn.