Cyngor Cymuned Trefeurig
Aelodau'r Cyngor Mai 2008+
Edwina Davies, Darren Villa, Pen-bont
Trefor Davies, Maes y Rhosyn, Pen-bont
Mel Evans, Gwarcaeau
D. Mervyn Hughes, Ger-y-llan
Evan Daniel Jones, Clawddmelyn
Tegwyn Lewis, Rhos-goch
Richard Owen (Plaid Cymru), 31 Glan Ceulan
D. Rees Morgan, Maes Seilo
Gwenan Price, Dolmaeseilo
David Sheppard (Plaid Cymru), 1 Dolhelyg
Kari Walker, Symlog House, Cwmsymlog
Cyfarfod 2008, 25 Tachwedd
Cyfarfod 2008, 21 Hydref
Cyfarfod 2008, 16 Medi
Cyfarfod 2008, 29 Gorffennaf
Cyfarfod 2008, 17 Mehefin
Cyfarfod 2008, 13 Mai
Cyfarfod 2008, 15 Ebrill
Adroddiad Cyfarfod Ionawr 2008 tud. 9, Chwefror, Tincer
Y Cyngor
Sefydlwyd Plwyf Sifil Trefeurig ym 1894 ac y mae cofnodion y cyfarfodydd ar gael oddi ar hynny. Mae Cymuned Trefeurig yn cynnwys Penrhyn-coch, Salem, Penrhiwnewydd, Pen-bont Rhydybeddau, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Banc y Darren, Cefn-llwyd, Capel Madog a rhan o Gapel Dewi. Cynrychiolir yr ardal gan un ar ddeg o gynghorwyr a chynhelir etholiadau bob pedair blynedd.
Codir incwm drwy grantiau a'r archebiant (£15,000 yn 2006/07). Ymhlith cyfrifoldebau'r Cyngor mae hysbysfyrddau, seddau cyhoeddus, llochesi bysus, y faner a pholyn y faner, y Gofeb Ryfel, arolygu cyflwr mannau tramwyo cyhoeddus a darparu goleuadau ar gyfer llwybrau troed. Gyda chymorth grantiau gall y Cyngor ymgymryd â chynlluniau y maent yn eu hystyried o fudd i'r ardal neu hybu cynlluniau o'r fath. Gwneir cyfraniadau blynyddol i gymdeithasau neu elusennau y credir eu bod o les uniongyrchol i'r gymuned neu i'w thrigolion.
Mae'r aelodau yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir ganddynt yn sgil eu hymwneud â gweithgarwch yn y gymuned ehangach a'u haelodaeth ar bwyllgorau lleol, cymdeithasau chwaraeon a hamdden, mannau o addoliad, clybiau cymdeithasol, byrddau llywodraethol ysgolion cynradd, ac yn y blaen, i ymateb i anghenion lleol ac i bwyso am newidiadau a gwelliannau lle mae hynny'n bosibl, yn enwedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â'r ffyrdd ac â'r amgylchedd, ac â materion cyfraith a threfn drwy ymgynghori â'r heddlu lleol.
Gwahoddir y Cyngor i roi sylwadau ar faterion cynllunio sy'n berthnasol i'r gymuned ac ar ddogfennau ymgynghorol a gyhoeddir gan Gyngor Sir Ceredigion, Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Heddlu ac awdurdodau cyhoeddus eraill.
Mae'r Cyngor yn cyfarfod ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.30 o'r gloch, a hynny yn Neuadd y Penrhyn, Penrhyn-coch, ac Ysgol Trefeurig bob yn ail. Mae agenda pob cyfarfod yn cael ei arddangos ymlaen llaw ar hysbysfyrddau'r Gymuned. Cedwir y cofnodion yn Gymraeg ac yn Saesneg a chyhoeddir adroddiadau o'r cyfarfodydd yn y Cambrian News a'r Tincer.
Mae gan aelodau'r cyhoedd hawl statudol i fynychu cyfarfodydd y Cyngor Cymuned ac i annerch y cyfarfod yn ôl doethineb y Cadeirydd.