CYMDEITHAS Y PENRHYN
RHAGLEN 2009-2010Medi 16: Hafina Clwyd, 'Cipolwg ar Gyfrifiad 1881 ac 1891'*
Hydref 21: Llion Iwan, 'Cymeriadau nofelau, ffrwyth y ffeithiol a'r dychmygol'*

Tachwedd 18: Cofio BJ yng nghwmni Andrea Parry, y Bala ac eraill
Rhagfyr 17: (Nos Iau)Plygain Traddodiadol yn Eglwys Sant Ioan 7.30
2010, Ionawr 20: Iwan Meical Jones, 'Hen ffordd Gymreig o fyw' trwy ffotograffau John Thomas


Chwefror 17: Elvey Macdonald yn trafod ei hunangofiant Llwch*

Mawrth 13: (Nos Sadwrn)Cinio Gŵyl Ddewi, Gwraig wadd: Sue Jones Davies
Mehefin 26:(Dydd Sadwrn) Taith i Dir Iarll, Iorwerth Davies
* Noddir gan Academi
Trip i Fro Morgannwg, 19 Mehefin 2010
Trip i Sir Fôn, 13 Mehefin 2009
Trip i Gwm Tawe, 14 Mehefin 2008

Trip cyntaf y Gymdeithas i Rydwilym 1990
Mae'r gymdeithas yn llwyddo i ddenu amrywiaeth o siaradwyr, yn awduron, beirdd, actorion, pobl y cyfryngau, diddanwyr a phob math o gymeriadau diddorol.

Y cyfarfod cyntaf Hydref 1987
Ym mis Rhagfyr cynhelir plygain traddodiadol yn Eglwys Sant Ioan, Penrhyn-coch, gyda chydweithrediad parod yr eglwys. Mae'r gwasanaeth hwn yn boblogaidd iawn, ac yn denu nifer o bartïon ac unigolion o gylch Aberystwyth a rhai o ardaloedd pellach hefyd.
Ym mis Mawrth cynhelir cinio blynyddol y gymdeithas, ac yn yr haf (Mai neu Fehefin) ceir gwibdaith i ardal yng ngogledd a de Cymru bob yn ail flwyddyn.

Trip 1992 Castell Cilgerran
Y tâl aelodaeth yw £6, gyda thâl gostyngol o £4 i bensiynwyr, y digyflog a myfyrwyr; £1 yw'r tâl am un cyfarfod. Mae croeso i bawb yn y Gymdeithas.
Swyddogion y Gymdeithas am 2009/10 yw:
Cadeirydd: Y Parchg Judith Morris
Is-gadeirydd: Dafydd Sheppard
Ysgrifennydd: Ceris Gruffudd, Rhos Helyg, 23 Maesyrefail, Penrhyn-coch (01970 828017),
Ysgrifennydd Aelodaeth: Dafydd Sheppard
Trysorydd: Eirian Reynolds