Brownies
Brownies: ar gyfer merched 7-10 oedManylion cyswllt: Wendy Reynolds (01970) 820 124; Glenys Morgan (01970) 828 645
mwy...
Cae Chwarae Pen-bont Rhydybeddau
Lle diogel ar gyfer plant y cymuned. Ceir maes pêl droed, trac beiciau, siglenni a ffrâm ddringo.Manylion cyswllt: Ann Edwards
mwy...
Capel Madog
Un o gapeli Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw Capel Madog ac mae iddo 26 o aelodau ar hyn o bryd. Cynhelir gwasanaeth yng Nghapel Madog bob dydd Sul am 2 o'r gloch. Y gweinidog presennol yw'r Parchg Wyn Rh. Morris, sydd yn bugeilio ar ofalaeth y Garnmwy...
Capel Siloa, Cwmerfyn
Daeth Siloa i fod fel cangen o Eglwys Annibynnol Salem Coedgruffydd yn 1866, a Salem yn ei thro yn un o'r achosion hynny a sefydlwyd gan Azariah Shadrach yng ngogledd Ceredigion. Mae gan Siloa 21 o aelodau. Cynhelir gwasanaeth am 2 o'r gloch unwaith y mis rhwng dechrau Mawrth a diwedd Hydref.Y swyddogion presennol yw Dafydd Elwyn Jones (ysgrifennydd), Dilys Jones (trysorydd) a Margaret Mason Pollack (organyddes).Manylion cyswllt: The Secretary/ Yr Ysgrifennydd (01970 615267).
mwy...
Cylch Meithrin Trefeurig
Mae Cylch Meithrin Trefeurig eisoes wedi ennill y Cylch Rhagorol a'i amcan yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o dan 4 oed trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Cylch ar agor ar ddydd Llun, Mawrth, Mercher, Iau a Gwener o 9.05 y.b. - 12.00 y.p. yn Neuadd y Penrhyn.Arweinydd y Cylch: Mrs Gwenan Price; Cadeirydd y Pwyllgor: Mrs Llinos Hallgarth
Manylion cyswllt: Mrs Gwenan Price 07527 035 190 (9–12, Llun/Mon–Gwen/Fri); Mrs Llinos Hallgarth 07976 607 173
mwy...
Cylch Ti a Fi
Lle ar gyfer rhieni a'r rhai sy'n gofalu am blant i gyfarfod mewn awyrgylch anffurfiolManylion cyswllt: Delyth - 01970 828916
mwy...
Cymdeithas Madog
Bydd y rhaglen ar gyfer Ionawr-Mawrth yn cael ei dosbarthu cyn bo hir. Bydd paned ar ddiwedd y cyfarfodydd. Y tâl am y chwe chyfarfod 2007-8 yw £2, neu 50c fesul cyfarfod. Croeso cynnes i bawb o bob oedran, enwad a ffydd.Manylion cyswllt: Alwyn Hughes 01970-880859
mwy...
Cymdeithas y Penrhyn
Cymdeithas ddiwylliannol yw Cymdeithas y Penrhyn. Mae'n cyfarfod bob mis rhwng Medi a Chwefror, a hynny, fel arfer, ar drydedd nos Fercher y mis yn Festri Horeb am 7.30 p.m.Manylion cyswllt: Ceris Gruffudd, Rhos Helyg, 23 Maesyrefail, Penrhyn-coch (01970 828017)
mwy...
Eglwys Sant Ioan
Mae Eglwys Sant Ioan wedi bod yn lle i Gristionogion addoli ers 1881. Mae'r gwasanaethau yn ôl trefn yr Eglwys yng Nghymru ac estynnir croeso cynnes i newydd-ddyfodiaid, ymwelwyr a phlant.Manylion cyswllt: Y Parchg / Revd John Livingstone 01970 820006
mwy...
Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch
Hanes Eisteddfod Penrhyn-coch a rhestr o enillwyr y Gadair.**Rhagor o Luniau o Eisteddfod 2008.**
mwy...
Grŵp Datblygu Ysgol Trefeurig
Mae Grŵp Datblygu Ysgol Trefeurig yn gweithio er mwyn cadw ein hysgol gynradd leol fel man cyfarfod i'r gymuned. Caeodd yr ysgol haf 2006 ac yw'r unig adeilad ym mhentref Pen-bont Rhydybeddau le gallwn gyfarfod. Mae mewn perygl o gael eu gwerthu gan yr Awdurdod Addysg Leol. Ar hyn o bryd rydym yn gallu defnyddio'r adeilad ac rydym yn galonogol i'w defnyddio am sawl sesiwn wahanol.mwy...
Horeb, Eglwys y Bedyddwyr, Penrhyn-coch
Sylfaenwyd Horeb, Eglwys y Bedyddwyr, Penrhyn-coch yn 1788. Elwodd yr eglwys o'r penderfyniad a wnaethpwyd yn 1986 i dderbyn yr egwyddor o weinidogaeth fro ac eglwys rydd-aelodaeth, a pharhaodd cyfanswm yr aelodau o gwmpas y 100 ers sawl blwyddyn. Ers Ebrill 2007 ein gweinidog yw y Parchg Judith Morris. Trefn arferol y gwasanaethau yw oedfaon am 2.30 ar y Sul cyntaf a'r trydydd o'r mis ac am 10.30 ar yr ail Sul (pan gynhelir oedfa deuluol), ar pedwerydd Sul, ac ar y pumed pan mae pum Sul yn y mis. Mae oedfa gyntaf y mis fel rheol yn oedfa gymun a cheir paned a chyfle i gymdeithasu ar ôl y drydedd oedfa.Manylion cyswllt: Y Parchg / Revd Judith Morris (01970 820 939)
mwy...
Merched y Wawr Penrhyn-coch
Cynhelir cyfarfodydd yn Neuadd y Penrhyn am 7.30 ar yr ail Nos Iau o'r mis (o fis Medi at fis Mai). Gweler y Dyddiadur am raglen eleni.Manylion cyswllt: Secretary / Ysgrifennydd: Glenys Morgan (01970 828645)
mwy...
PATRASA
Pwyllgor hollol wirfoddol sy'n cynnal a chadw'r parc a'r cyrtiau tennis yn y pentref. Cynhelir y pwyllgorau ar yr 2il nos Fercher o bob yn ail fis o Mis Medi tan Gorffennaf yn Neuadd y Penrhyn am 7.30.Trefnir nosweithiau clirio o Fis Ebrill i Fis Medi i gadw'r Parc yn daclus. Mae angen gwirfoddolwyr - dewch i helpu i gadw'r parc.Manylion cyswllt: Chris Wilson ( 01970 820723)
mwy...
Salem Coedgruffydd Eglwys Annibynnol Gymraeg
Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1824; fe'i hailadeiladwyd yn 1850 a helaethwyd ef yn 1864. I gyrraedd y capel ewch trwy bentref Penrhyn-coch ar hyd ffordd Penbont-rhyd-y-beddau, a chymryd y ffordd gyntaf ar y chwith ar ôl mynd heibio Capel Horeb. Y Parchg Richard H. Lewis, B.A, ydy'r Gweinidog. Cynhelir gwasanaeth naill ai am 10.00 o'r gloch y bore, 2.00 y prynhawn, neu am 5.00 yr hwyr. Cysyllter â'r ysgrifennydd am fanylion.Manylion cyswllt: Ysgrifennydd: Evan L. James, Penrhyn-coch (01970 828577)
mwy...
Sioe Trefeurig
Mae Sioe Trefeurig ar fynd ers un mlynedd ar ddeg ac fe'i cynhelir ar y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Medi yn Ysgol Trefeurig.Manylion cyswllt: Secretary (01970) 828677, or Eileen Rowlands (01970) 828267
mwy...