Cylch Ti a Fi Penrhyn-coch


Mae Cylch Ti a Fi yn lle braf i rieni a gwarchodwyr gwrdd mewn awyrgylch anffurfiol. Cewch ddod â'ch babi bach a'ch plant hyd at oed ysgol i'r cylch Ti a Fi i gyd-chwarae a phlant eraill. Caiff y plant gyfle i fwynhau chwarae gyda phob math o deganau, peintio, chwarae gyda chlai, cael stori a chanu, a chewch chi gyfle i ymlacio a sgwrsio dros baned efo oedolion eraill.

Mae'r Cylch yn cwrdd yn Neuadd y Penrhyn bob Dydd Gwener am 1:30-3.00.

Am fanylion pellach cysylltwch â Delyth ar 01970 828916.