Salem Coedgruffydd

Eglwys Annibynnol Gymraeg
• Beddargraffiadu Salem (2009), M A James
Gweinidog: Y Parchg Richard H. Lewis, B.A.
Ysgrifennydd: Evan L. James, 10 Cae Mawr, Penrhyn-coch, Aberystwyth. SY23 3EJ
Rhif ffôn: 01970 828577
Trysorydd: D. Ken Evans, Coedgruffydd, Salem, Aberystwyth. SY23 3ET
Cynhelir gwasanaeth naill ai am 10.00 o'r gloch y bore, 2.00 y prynhawn, neu am 5.00 yr hwyr. Cysyllter â'r ysgrifennydd am fanylion.
I gyrraedd y capel ewch trwy bentref Penrhyn-coch ar hyd ffordd Penbont-rhyd-y-beddau, a chymryd y ffordd gyntaf ar y chwith ar ôl mynd heibio Capel Horeb.
Hanes sefydlu Eglwys Salem Coedgruffydd
Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg pregethwyd mewn amryw o gartrefi yng ngogledd Ceredigion gan y Parchedig Thomas Phillips, Neuaddlwyd (1772-1842). O ganlyniad sefydlwyd eglwysi Soar, Llanbadarn Fawr, ar 19 Rhagfyr 1802, a Bethel, Tal-y-bont, yn 1804. Daeth Azariah Shadrach (1774-1844) yn weinidog yn 1805 ar y ddwy eglwys a bu yntau yn pregethu mewn cartrefi yn yr ardal, gan gynnwys fferm Coedgruffydd. Olynwyd ef yn Nhal-y-bont gan Moses Ellis yn 1823, ac yn fuan wedyn ffurfiwyd eglwys Salem. Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1824; fe'i hailadeiladwyd yn 1850 a helaethwyd ef yn 1864.
Ceir dau gofeb rhyfel yn y capel a gwelwyd 308 o gerrig beddau yn y fynwent yn y flwyddyn 1994. Coffawyd 540 o unigolion arnynt. Copiwyd y beddargraffiadau ac fe'u gwelir yn Beddargraffiadau a Mynegeion, Cyf. XI, Plwyf Llanbadarn Fawr (rhan ogleddol) gan E. L. & M. A. James, 1998.
Am ragor o hanes Salem Coedgruffydd, gweler erthygl David Jenkins yn Ceredigion, XII (1994), 35-56.