CYLCH MEITHRIN TREFEURIG
Mae Cylch Trefeurig eisoes wedi ennill y Cylch Rhagorol a'i amcan yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o dan 4 oed trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Cylch ar agor ar ddydd Llun, Mawrth, Mercher, Iau a Gwener o 9.05 y.b. - 12.00 y.p. yn Neuadd y Penrhyn.
Caniateir 24 plentyn rhwng 2½–4 oed yn y Cylch. Os oes lle, croesewir plant o'r tu allan i'r dalgylch i'r Cylch, ar yr amod bod y rhieni'n cytuno i fynd â'u plentyn o'r Cylch os bydd plentyn lleol am gael lle.
Rydym yn ceisio sicrhau fod pob agwedd o'n gweithgareddau yn hyrwyddo cyfle cyfartal i bob unigolyn, beth bynnag fo'i genedl, lliw, hil, rhyw, rhywioldeb, anabledd, crefydd, oed, statws priodasol, diwylliant neu ddosbarth cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys mynediad i weithgareddau, triniaeth gyfartal a pharch tuag at bob unigolyn
Er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn elwa i'r eithaf o'r meysydd dysgu, bydd y cylch meithrin yn cynllunio a threfnu nifer o weithgareddau a phrofiadau a fydd yn hyrwyddo'r agweddau hyn o'r cwricwlwm.
• Medrau iaith, llythrennedd a chyfathrebu
• Datblygiad personol a chymdeithasol
• Datblygiad mathemategol
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd
• Datblygiad corfforol
• Datblygiad creadigol
Mae'r amgylchedd yn un gartrefol a chroesawgar, ac wedi'i chynllunio i hybu datblygiad y plant. Yn ogystal, yr ydym yn darparu ystod eang o offer pwrpasol o safon uchel a fydd yn hyrwyddo amcanion y cwricwlwm.
Mae'r cylch yn gweitho i'r arferion da canlynol:
1. plant yn teimlo'n ddiogel, cael parch, datblygu hyder
2. parchu teimladau a gofynion rhieni
3. amgylchedd addas, adnoddau gorau posib
4. gweithgareddau addas a phwrpasol
5. arweiniad, canmoliaeth ac anogaeth
6. adnabyddiaeth o'r plant
7. cyfleoedd i'r plant drafod a siarad
8. polisiau pendant
9. cynllunio penodol
10. perthynas dda ag eraill - gofalwyr, y pwyllgor, yr ysgol leol, y gymuned leol
11. hyfforddiant addas a phriodol.
Oherwydd bod y Cylch yn Elusen gofrestredig mae'n ddibynnol ar grantiau a chodi arian trwy wahanol weithgareddau i'w ariannu. Rhai o'r gweithgareddau sydd wedi eu cynnal yn y gorffennol yw Bore Agored, Ffair Nadolig, a Chyngerdd. Mae'r plant hefyd yn cael cyfle i fynd ar amryw dripiau gwahanol yn ystod y flwyddyn a hefyd cymryd rhan mewn gweithgareddau fel y Cyngerdd Nadolig a gynhelir yn yr eglwys yn flynyddol, - CMT - Operation Christmas Child ac amryw o weithgareddau eraill.
Manylion cyswllt
Am fwy o wybodaeth am Cylch Meithrin Trefeurig medrwch cysylltu gydag Arweinydd y Cylch, Mrs Gwenan Price 07527 035 190 rhwng 09.05 y.b. a 12.00 y.p. dydd Llun hyd ddydd Gwener. .