Horeb, Eglwys y Bedyddwyr, Penrhyn-coch
|
|
|


YR HEUWR CYLCHGRAWN MISOL EGLWYS HOREB PENRHYN-COCH CYFROL 2 RHIF 41 CHWEFROR 2012
Yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf bu cryn bendroni p'un ai fyddai Prif Weithredwr y Royal Bank of Scotland, Stephen Hester, yn cymryd bonws o ryw £1,000,000 fel ychwanegiad i'w gyflog. Erbyn hyn gwyddom iddo benderfynu peidio â'i dderbyn. Er hynny, mae'n siwr iddo fod o dan bwysau aruthrol i wrthod y taliad ychwanegol hwn a oedd, er tegwch iddo ef, yn rhan o'i gytundeb. Ond o gofio bod Cadeirydd y Banc wedi gwrthod ei fonws ef, bu'n anodd iawn i Stephen Hester beidio â dilyn ei esiampl. I'r rhan fwyaf o bobl mae £1,000,000 yn swm rhyfeddol ac anodd credu bod un person yn medru ennill cymaint o arian ar ben cyflog misol!
Ond, os byddwn fyw ac iach, fe ddaw bonws bach i ninnau hefyd cyn bo hir. Ie, mae'n flwyddyn naid unwaith eto ac am hynny mae yna naw diwrnod ar hugain ym mis Chwefror, yn hytrach na'r wyth diwrnod ar hugain arferol. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn cawn fonws arall hefyd, sef diwrnod o wyliau ychwanegol i nodi dathliadau jiwbili diemwnt y Frenhines.
Ydy, mae'n braf cael rhywbeth bach ychwanegol mewn bywyd. Wrth fynd i siopa, mae'r archfarchnadoedd yn aml yn cynnig dau beth am bris un. Slawer dydd, pan awn am baned o goffi mewn caffi yn Abertawe, byddwn yn cael yr ail baned am ddim. (Mae'n debyg bod siop Ikea yn dal i gynnig hyn heddiw.) Ac yn aml iawn pan fydd rhyw gwmni yn ceisio denu pobl i brynu rhywbeth newydd byddant yn cynnig cludo'r nwyddau yn rhad ac am ddim i'r cartref. Mae pob busnes erbyn hyn yn gwneud ei orau glas i gynnig rhywbeth yn ychwanegol er mwyn denu'r cwsmer i brynu.
Ond gwahanol iawn yw trefn Duw wrth iddo geisio ein denu ni i gredu ynddo.
Un o'r hanesion hyfrytaf yn y Testament Newydd yw'r hanes am y wraig weddw yn rhoi dau ddarn o arian yn nhrysorfa'r deml. Ni wyddom ddim o'i hanes ond gwyddom iddi roi'r cyfan oedd ganddi. Nid cyfrannu rhyw arian yn ychwanegol at goffrau'r deml a wnaeth hi, nid rhoi'r hyn oedd dros ben ganddi, ond rhoi'r cyfan yn ddi-rwgnach heb geisio unrhyw sylw na chlod am wneud hynny. Meddai un am ei chyfraniad: mae'n tanlinellu'r wers mai'r hyn sy'n cyfrif yw nid faint y mae rhywun yn ei roi ond faint y mae'n ei gadw iddo'i hun. Mae'r hanes amdani wrth gwrs yn ein harwain yn uniongyrchol at weithred Duw yn rhoi inni ei Fab Iesu Grist. Yn union fel yn hanes y wraig weddw fe roddodd Dduw bopeth inni heb ddal dim yn ôl. Yn nyfodiad Crist i'r byd cawsom y cyfan ganddo. Nid rhyw rodd ychwanegol mohono, nid bonws arbennig ond y swm a'r sylwedd wrth i Dduw geisio eich denu chi a fi, ei bobl a'i blant, i gredu ynddo o'r newydd.
Pa eisiau unrhyw fonws pan gawsom y cyfan yng Nghrist?
Pob bendith
Judith, Berwynfa, Penrhyn-coch, Aberystwyth. SY23 3EW
Rhif Ffôn : 01970 820939 E-bost: berwynfa@btinternet.com.
CROESO CYNNES I BAWB I'R OEDFAON!
Y diweddaraf:
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb i gynorthwyo gyda'r Clwb Sul fe fyddem yn falch iawn o glywed gennych. Cysylltwch â'r Gweinidog.
• Oedfa Hel Atgofion 15.1.2012
Oedfa Nadolig 18.12.2011
Y Capel, Y Gymdeithas a Pherfformiad
Y Festri yn 80 oed!
Ymweliad â Soar y Mynydd 12 Meh 2011
Dilyn ôl troed y Crynwyr o gwmpas Dolgellau 7 Mai 2011
Cyngerdd Cronfa Tirion, 15 Ebrill 2011
Taith Dewi, 2-10 Hydref 2010
Ymwelwyr o Lesotho, 27 Mehefin 2010
Bedydd Derfel a Manon Reynolds 3 Ionawr 2010
Taith i Salem, Cwm Nantcol, 5 Gorff. 2009
Cymanfa Ganu 10 Mai 2009
Swper y Pasg 1 Ebrill 2009
Oedfa Nadolig y Plant 2008
Gefeillio ag Eglwys yn Lesotho
Ymweliad y Parchg Ddr P L Lianzula (8 Medi 2008)
Ymweliad â Llwyndafydd (29 Mehefin 2008)
Diaconiaid newydd
Cyngerdd er budd Cymorth Cristnogol (11 Mehefin 2008)
Cyhoeddwyd hanes Horeb, a gorfforwyd yn 1788, yn y gyfrol O Blas Gogerddan i Horeb (taith dwy ganrif) o waith David Jenkins, cyn-Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, a fu'n ysgrifennydd yr Eglwys rhwng 1982 a 1993. Ceir hefyd gofnod am Horeb yng nghyfrol D. Huw Owen, Capeli Cymru (Y Lolfa, 2005), tt.147-8.
Elwodd yr eglwys o'r penderfyniad a wnaethpwyd yn 1986 i dderbyn yr egwyddor o weinidogaeth fro ac eglwys rydd-aelodaeth, a pharhaodd cyfanswm yr aelodau o gwmpas y 100 ers sawl blwyddyn.
Ers Ebrill 2007 ein gweinidog yw y Parchg Judith Morris, Berwynfa, Penrhyn-coch SY23 3EW. 01970 820 939
Trefn arferol y gwasanaethau (a hysbysebir yn wythnosol yn y Cambrian News ac yn fisol yn y Tincer) yw oedfaon am 2.30 ar y Sul cyntaf a'r trydydd o'r mis ac am 10.30 ar yr ail Sul (pan gynhelir oedfa deuluol), a'r pedwerydd Sul, ac ar y pumed pan mae pum Sul yn y mis. Mae oedfa gyntaf y mis fel rheol yn oedfa gymun a cheir paned a chyfle i gymdeithasu ar ôl y drydedd oedfa. Cynhelir Clwb Sul am 10.30 ac eithrio yn ystod gwyliau ysgol a chroesewir plant sy'n byw yn lleol neu sy'n mynychu'r ysgol leol.
Cyhoeddir cylchlythyr Yr Heuwr yn fisol ar wahân i fis Awst (gweler uchod).
![]() |
| Rhestr o weinidogion Horeb |



