Eglwys Sant Ioan Penrhyn-coch



Beddargraffiadau Eglwys Sant Ioan (2009), M A James
Y Parchg John P LivingstoneEglwys Sant Ioan

Ficer y Plwyf



Y Parchg John Livingstone, Y Ficerdy, Garth , Penrhyn-coch Ffôn: 01970 820006




Agored i bawb

Ysgol Sul


Croesewir plant o bob oed ar y Sul yn Neuadd yr Eglwys am 10.45 yb yn ystod tymor yr ysgol. Mae'r gweithgareddau yn cynnwys Celfyddyd, Gemau, Hanesion, Drama, Cerddoriaeth, Parti Nadolig, Gweithdy Pasg. Mae diogelwch ein plant o bwysigrwydd mawr i ni ac mae'r ymholiadau angenrheidiol cyfreithiol wedi eu cwblhau am bob athrawes Ysgol Sul. Mae hwn yn Blwyf Diogel rhag Niwed.

Athrawon Ysgol Sul

Mrs Margaret Evans, Glanaber, Penyberth Road, Penrhyn-coch Ffôn: 01970 828620
Mrs Marianne Powell, Leacroft, Llandre, Ffôn: 01970 828064

Fe'u cefnogir gan y canlynol:
Mrs Kathryn Livingstone; Mrs Norma Collins; Mrs Dawn Roberts; Mrs Joanne Thomas

Wardeiniaid yr Eglwys
Mrs Edwina Davies, Darren Villa, Penbontrhydybeddau, SY23 3EZ Ffôn: 01970 828296
Mrs Gwyneira Marshall, Bro Gerddan, Penrhyn-coch, SY23 3ED Ffôn: 01970 828557

Urdd y Gwragedd


Cyfarfod ar y nos Lun cyntaf o'r mis am 7yh yn Neuadd yr Eglwys. Rhaglen amrywiol rhwng mis Medi a mis Mai. Croeso cynnes i bawb. Cysylltwch â:

Mrs Mair Jenkins, Cwmbwa, Penrhyn-coch, Ffôn: 01970 828263

Priodasau


Os ydych yn ystyried priodi bydd y Ficer yn hapus i drafod pwysigrwydd arbennig sacrament y briodas Gristionogol.

Bedydd


Mae'r sacrament o Fedydd ar gael i bob baban ac oedolyn. Fel arfer cynhelir y Bedyddio yn ystod Gwasanaethau'r Sul. I drafod Bedydd baban neu oedolyn, cysylltwch gyda'r Ficer os gwelwch yn dda.

Addoli yn Eglwys Sant Ioan


Mae Eglwys Sant Ioan wedi bod yn lle i Gristionogion addoli ers 1881. Mae'r gwasanaethau yn ôl trefn yr Eglwys yng Nghymru ac estynnir croeso cynnes i newydd-ddyfodiaid, ymwelwyr a phlant. Yn ystod salwch darperir Cymun yn y cartref, ac mae'r Ficer hefyd yn ymweld â'r plwyfolion mewn ysbytai a'u cartrefi.
Mae Dosbarthiadau Conffyrmasiwn i Oedolion a Phobl Ifanc. Mae cymorth i'w gael gyda galar. Yr ydym yn eich croesawu ac yn eich gwahodd i rannu'r ffydd. Cysylltwch gyda'r Ficer am fanylion.

Gwasanaethau


Gwasanaethau Dwyieithog
Sul 1af: 10.45 yb Cymun Bendigaid; 2ail Sul: 10.45 yb Cymun Bendigaid; 3ydd Sul: 10.45 yb Cymun Bendigaid; 4ydd Sul: 10.45 yb Boreol Weddi; 5ed Sul: 2.30 yh Hwyrol Weddi

Gwasanaethau Eraill
Cynhelir Gwasanaethau arbennig yn ystod y Nadolig a'r Pasg. Byddwn hefyd yn dathlu Dyddiau Sanctaidd yn ystod yr wythnos. Galwch i mewn er mwyn gweld beth yr ydych yn ei golli.

Taith gerdded Ann Griffiths 18 Ebrill 2009

Taith gerdded Ann Griffiths 18 Ebrill 2009


Taith gerdded Ann Griffiths 18 Ebrill 2009

Taith gerdded Ann Griffiths 18 Ebrill 2009