Clwb Pêl-droed Trefeurig 1948-53
Rwy'n ceisio ysgrifennu hanes Clwb Pêl-droed Trefeurig a fu'n chwarae yng nghynghrair Aberystwyth rhwng 1948-53.
Rwyf wedi olrhain dros 70 o chwaraewyr a fu'n gysylltiedig â'r clwb, ac wedi cofnodi holl ganlyniadau'r tîm yn ystod ei bum mlynedd o fodolaeth.
Byddwn yn arbennig o ddiolchgar i glywed gan unrhyw un a fu'n chwarae i'r clwb, neu sy'n medru cynnig gwybodaeth neu atgofion am berthnasau, ffrindiau neu gymdogion a fu'n ymwneud â'r clwb mewn unrhyw ffordd.
Rwy'n arbennig o awyddus i ddod o hyd i unrhyw luniau neu gofnodion yn ymwneud â'r tîm.
Diolch yn fawr iawn
Richard
Richard E. Huws, Pantgwyn, Bont-goch (Elerch),
Tal-y-bont, Ceredigion. SY24 5DP
01970-832566
07702417169
http://www.flickr.com/photos/llwyngwair
REHuws@aol.com