Inter Milan Ceredigion!

Rhwng 1948 a 1953 bu Trefeurig & District United yn chwarae pêl-droed yng nghynghrair Aberystwyth a'r Cylch. Mewn pum tymor chwaraeasant 94 o gemau cynghrair gan ennill ond 13. Adroddir eu stori mewn llyfryn newydd dwyieithog Caneris melyn Trefeurig / Trefeurig's yellow canaries, o waith Richard E. Huws, ac a gyhoeddir ym mis Tachwedd.
Mae'r llyfr nid yn unig yn rhoi hanes y tîm, ond mae'n gronicl pwysig hanesyddol a chymdeithasol o oes a fu. Chwaraeai'r tîm ar gae oedd dros 700 troedfedd uwchben y môr ym Mancydarren mewn ardal ddiarffordd yng ngogledd Ceredigion, a thynnwyd chwaraewyr o bentrefi pell ac agos i'w gynrychioli. Dibynnai'r clwb yn bennaf ar chwaraewyr o bentrefi plwyf Trefeurig fel Bancydarren, Cwmerfyn, Cwmsymlog a Phen-bont Rhydybeddau, ond yn ogystal bu'n rhaid denu chwaraewyr o bentrefi cyfagos fel Bow Street, Capel Bangor, Derwen-las, Llanbadarn Fawr, Llanfarian, Taliesin, Tal-y-bont a Thrawsgoed. Daeth nifer o fechgyn hefyd o Aberystwyth a Phenparcau, ac ymhlith y 70 a fu'n cynrychioli'r tîm roedd nifer o fyfyrwyr y brifysgol. Mae'r llyfryn yn cynnwys bywgraffiad byr o bob chwaraewr, ac mae'n ddiddorol i nodi bod yn eu plith fechgyn o dras Albanaidd, Almaenaidd, Eidalaidd a Gwyddelig, yn ogystal â nifer o Saeson a ymsefydlodd yn yr ardal. Fel Inter Milan roedd Trefeurig hefyd yn dim rhyngwladol !
Yr awdur yw Richard E. Huws, cyn-aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gyhoeddodd The football and rugby playing fields of Wales o wasg Y Lolfa yn 2009. Ysgrifennwyd y rhagair gan Tegwyn Jones, Bow Street, awdur lleol a fu'n chwaraewr ac yn gefnogwr Trefeurig. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys nifer o luniau grŵpiau ac unigolion.
Cyhoeddir Caneris melyn Trefeurig / Trefeurig's yellow canaries, 72tt, (ISBN:978-1-84771-311-7) gan yr awdur, Richard E. Huws, Pantgwyn, Bont-goch, Ceredigion, SY24 5DP. (01970-83256). Ei bris yw £6 yn y siopau, neu £7 i gynnwys cludiant a phacio os archebir drwy'r post.
![]() |
| Yr awdur |
